Diwrnod Siwmper Nadolig 2021 / Christmas Jumper Day 2021
Diwrnod Siwmper Nadolig
Mae diwrnod Siwmper Nadolig ar ddydd Gwener 10fed o Ragfyr a gall y plant wisgo eu siwmper Nadolig i'r ysgol ar y diwrnod hwn. Eleni, yn lle gofyn am gyfraniad ariannol, gofynnwn yn garedig am gyfraniad tuag at y Banc Bwyd yn Aberteifi. Mae'r rhestr isod yn dangos yr hyn sydd ei angen arnyn nhw ar hyn o bryd. Anfonwch eich cyfraniad i mewn i'r ysgol ar ddydd Gwener ac yna byddwn yn eu danfon i gyd draw i'r Banc Bwyd.
Diolch yn fawr
Christmas Jumper Day
Friday 10th of December is Christmas Jumper Day and the children can wear their Christmas jumper to school on this day. This year, instead of asking for money contribution we kindly ask for a contribution towards the Food Bank in Cardigan. The list below shows what they need most at the moment. Please send your contribution in to school on Friday and we will then deliver them to the Food Bank.
Thank you