Scroll to content
St Dogmaels Community School home page

Ysgol Gymunedol Llandudoch /

St Dogmaels Community School

Tyfu, dysgu a chyd-fyw / Growing, learning and living together

Uned Y Cyfnod Sylfaen - Y Perlau Bach / Foundation Phase Unit - Y Perlau Bach

Croeso cynnes i Uned y Cyfnod Sylfaen

A warm Welcome to the Foundation Phase Unit

 

Staff Blwyddyn 1 a Derbyn:

Mrs Elinor Bennett

Ms Eirian Williams

 

Staff Meithrin: 

Mrs Rhian Durdu

Ms Eirian Williams

 

 

 

Yr hanner tymor hwn, ein pwnc yw “Dyma fi” – ffordd wych i blant archwilio eu hunaniaeth, dathlu’r hyn sy’n eu gwneud yn unigryw, ac i ddysgu am eraill yn eu dosbarth a’u cymuned.

Dros y chwe wythnos nesaf, byddwn yn canolbwyntio ar thema wahanol bob wythnos, gyda chymysgedd o weithgareddau dan arweiniad oedolion a dysgu dan arweiniad y plentyn ar draws pob maes dysgu yn y Cyfnod Sylfaen ac yn unol â’r Cwricwlwm i Gymru.

 

Trosolwg o’r Themâu Wythnosol

Wythnos 1 – Beth sy’n fy Ngwneud yn Arbennig?
Byddwn yn dechrau drwy ddathlu unigrywiaeth pob plentyn. Bydd y plant yn creu hunan-bortreadau, siarad am eu teuluoedd, a rhannu’r hyn sy’n eu gwneud yn arbennig

Wythnos 2 – Fy Nghorff
Byddwn yn enwi rhannau’r corff, dysgu sut mae’r corff yn gweithio, a sut i ofalu amdano. Byddwn yn mesur ein hunain, tynnu amlinelliadau llawn maint, ac archwilio sgerbydau ac X-pelydrau!

Wythnos 3 – Fy Synhwyrau
Bydd y plant yn archwilio’r pum synnwyr drwy weithgareddau ymarferol a chwarae synhwyraidd. Byddwn yn blasu, arogli, gwrando, cyffwrdd ac edrych yn fanwl ar y byd o’n cwmpas, gan ddefnyddio iaith ddisgrifiadol i siarad am ein profiadau.

Wythnos 4 – Fy Nheimladau
Byddwn yn helpu’r plant i adnabod ac enwi emosiynau gwahanol, deall sut i’w mynegi’n briodol, a dysgu strategaethau i reoli teimladau cryf. Bydd straeon fel The Colour Monster yn cefnogi ein trafodaethau, a byddwn yn creu masgiau emosiwn a siartiau teimladau.

Wythnos 5 – Tyfu a Newid
Byddwn yn edrych ar sut rydym wedi tyfu a newid ers bod yn fabanod, a sut y gallwn newid wrth dyfu’n hŷn. Bydd y plant yn cael cyfle i ddod â lluniau baban (dewisol) ac yn creu llinellau amser o’u bywydau hyd yma.

Wythnos 6 -8– Fy Nghartref a’r Ardal Leol
I orffen yr hanner tymor, byddwn yn archwilio ble rydym yn byw a beth sy’n gwneud ein cymuned yn arbennig. Byddwn yn mynd am dro lleol (os bydd y tywydd yn caniatáu), edrych ar fapiau, ac adeiladu modelau o’n cartrefi a mannau cyfarwydd.

 

Dysgu Trwy Chwarae

Yn ogystal â’n sesiynau dan arweiniad oedolion, byddwn yn gwella ein darpariaeth barhaus mewn ardaloedd fel chwarae rôl, adeiladu, byd bach, creadigol a chwarae awyr agored i adlewyrchu thema’r wythnos. Mae hyn yn helpu’r plant i atgyfnerthu eu dysgu mewn ffordd hwyliog ac ystyrlon.

 

Gwersi Addysg Gorfforol (PE)

Blwyddyn 1 a Derbyn - pob dydd Llun . Bydd angen chrys-t gwyn plaen a throwsus neu leggins du .

Plant oed Meithrin - pob dydd Iau .

 

 

This half term, our topic is “All About Me” – a wonderful way for children to explore their identity, celebrate what makes them unique, and learn about others in their class and community.

Over the next six weeks, we’ll be diving into a different theme each week, with a mix of adult-led activities and child-initiated learning across all areas of the Early Years Foundation Stage (EYFS) and Key Stage 1 curriculum. Here’s a little overview of what we’ll be exploring:

 

Week 1 – What Makes Me Special?

We’ll begin by celebrating each child’s uniqueness. Children will create self-portraits, talk about their families, and share what makes them special.

Week 2 – My Body

This week focuses on naming body parts, understanding how our bodies work, and learning how to take care of them. We’ll be measuring ourselves, drawing life-size outlines, and even exploring skeletons and X-rays!

Week 3 – My Senses

Children will explore the five senses through hands-on investigations and sensory play. We’ll be tasting, smelling, listening, touching, and looking closely at the world around us, using descriptive language to talk about our experiences.

Week 4 – My Feelings

We’ll help children recognise and name different emotions, understand how to express them appropriately, and learn strategies for managing big feelings. Stories like The Colour Monster will support our discussions, and we’ll create emotion masks and feelings charts.

Week 5 – Growing and Changing

This week, we’ll look at how we’ve grown and changed since we were babies, and what we might be like when we’re older. Children will bring in baby photos (optional) and create timelines of their lives so far.

Week 6-8 – My Home and Local Area

To finish the half term, we’ll explore where we live and what makes our community special. We’ll go on a local walk (weather permitting), look at maps, and build models of our homes and familiar places.

 

Learning Through Play

In addition to our adult-led sessions, we’ll be enhancing our continuous provision in areas such as role play, construction, small world, creative, and outdoor play to reflect each week’s theme. This helps children consolidate their learning in a fun and meaningful way.

PE Reminder

We kindly ask that your child brings a plain white t-shirt and black trousers or leggings to school on Thursday (Nursery children) and Monday (year 1 and Reception), as they will be taking part in regular PE lessons. These clothes should be comfortable and suitable for active movement. Please ensure all items are clearly labelled with your child’s name.

🌿😊

 

 

Apiau Defnyddiol/ Useful Apps