Cyngor Eco / Eco Council
Aelodau Cyngor Eco 2023-4
Eco Council Members 2003-4
Bydd y grŵp hwn yn cynrychioli safbwyntiau’r ysgol gyfan ac yn gweithredu fel y canolbwynt a fydd yn gyrru’r gwaith ymlaen ac yn trafod y cynnydd. Bydd yr Eco-Bwyllgor yn gweithio hefyd i gadw proffil y rhaglen Eco-Sgolion yn uchel.
Cynnal Adolygiad Amgylcheddol
Yn ystod tymor yr Hydref bydd y Cyngor Eco a'r ysgol yn cynnal adolygiad amgylcheddol. Pwrpas yr adolygiad yw helpu’r Eco-Bwyllgor i feddwl am ffyrdd o geisio sicrhau bod yr ysgol yn lleihau ei heffaith ar yr amgylchedd. Trwy gynnal adolygiad cynhwysfawr bydd modd sicrhau na fydd unrhyw feysydd sylweddol o ran effaith yn cael eu hanwybyddu. Yna, ar sail canlyniadau’r adolygiad, bydd Cynllun Gweithredu’n cael ei lunio.
Your Eco-Committee will represent the views of the whole school, and act as the focus to push forward actions and discuss progress. The Eco-Committee also work to keep the profile of the Eco-Schools programme high.
Carrying out an environmental review
During the Autumn term the school council and the school will be carrying out an environmental review.
The purpose of the review is to help the Eco-Committee come up with ideas as to how the school can reduce its impact on the environment. Conducting a comprehensive review will ensure that no significant areas of impact are overlooked. These ideas then feed into the Action Plan.
Plannu/Planting Hydref/October 2023
Casglu afalau gyda’r Cyngor Ysgol / Picking apples with the School Council Hydref/October 2023
Rydym yn falch iawn i gyhoeddi ein bod wedi llwyddo i ennill Baner Werdd Eco Sgolion. Diolch yn fawr iawn i’r Cyngor Eco am eu gwaith caled ac i holl ddisgyblion a staff yr ysgol am eu cefnogaeth a'u cyfraniad. Yn y llun gweler aelodau’r Cyngor Eco yn derbyn ein baner wrth Mrs Bethan Evans-Phillips, Swyddog Addysg Eco Sgolion.
We are delighted to announce that we have successfully achieved the Eco Schools Green Banner Award . Many thanks to the Eco Council for their hard work and to all pupils and staff for their support and contribution.
Pictured are the Eco Council members receiving our banner from Mrs Bethan Evans-Phillips, Eco Schools Education Officer.
Gwaith caled y Cyngor Eco 2021/22 - The Eco Council's hard work 2021/22
Fel ysgol rydym wedi ymuno â’r cynllun Parth Di-Sbwriel. Bydd y plant yn gyfrifol am helpu i gadw’r cae a’r parc yn rhydd o sbwriel. Dyma'r Cyngor Eco a'i ffrindiau yn cychwyn ar eu gwaith. As a school we have joined the Litter Free Zone scheme. The children will be responsible for helping to keep the field and the park litter free. Here are the Eco Council and friends starting their mission.
Her Cerdded i'r Ysgol / WOW Walk to School Challenge 2022
Llongyfarchiadau i'r plant a gafodd eu bathodyn Cerdded i'r Ysgol heddiw a diolch i aelodau Cyngor Eco blwyddyn 5 a 6 am gyfri a dosbarthu'r bathodynnau. Rydyn ni nawr yn dechrau mis newydd a bydd bathodynnau Ebrill yn cael eu dosbarthu ddiwedd y mis hwn.
Congratulations to the children that got their Wow Walk To School badge today and thank you to year 5 and 6 Eco Council members for counting and giving out the badges. We are now starting a new month and the April badges will be given out at the end of this month.